Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth ar gyfer masnachwyr annibynnol yn ein trefi drwy ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau bach i nifer fwy o fusnesau.
Hoffwn ni
weld cynllun sy'n debyg i'r un sy'n gweithredu yn yr Alban lle mae
eiddo masnachol sydd â gwerth ardrethol o hyd at
£18,000 yn cael rhyddhad rhwng 25% a 100% ar raddfa
symudol.
Rydym yn credu bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ohirio ail
werthuso busnesau o 2015 i 2017 ddim yn caniatáu i
effeithiau y dirwasgiad economaidd i gael ei adlewyrchu yn y dreth
fusnes.
.
Prif ddeisebydd: Keith Davies
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 4 June 2013
Nifer y llofnodion : 12